Session 3: Use of Welsh

Rhagolwg tywydd ar gyfer Cymru

        Weather forecast for Wales

Heno

         Tonight

Noswaith gymylog gyda chawodydd o law yn effeithio ar ardaloedd y gorllewin

         A cloudy evening with showers of rain affecting western areas

Bydd band o law, weithiau`n drwm, yn gwthio i`r gorllewin yn ystod oriau mān y bore

         A band of rain, sometimes heavy, will push into the west during the early hours of the morning

Bydd y glaw yn effeithio ar y mwyafrif o ardaloedd erbyn y wawr

         The rain will affect most areas by dawn

Tymheredd lleiaf 10 gradd C

         Minimum temperature 10 degrees C

Dydd Mercher

         Wednesday

Dechreuad gwlyb am y mwyafrif o rannau o Gymru ddydd Mercher gyda glaw trwm pellach am gyfnod

         A wet start for most parts of Wales on Wednesday with further heavy rain for a time

Bydd y glaw yn clirio tuag at y dwyrain erbyn dechrau`r prynhawn, gan adael cyfnodau heulog a chawodydd gwasgaredig

         The rain will clear towards the east by the start of the afternoon, leaving sunny periods and scattered showers

Bydd yn teimlo`n oerach

         It will feel cooler

Tymheredd uchaf 16 gradd C

         Maximum temperature 16 degrees C

Rhagolwg ar gyfer dydd Iau i ddydd Sadwrn

         Outlook for Thursday to Saturday

Yn ansefydlog ac yn wyntog ddydd Iau gyda chawodydd trwm eang a thymhestloedd posib mewn ardaloedd arfordirol

         Unsettled and windy on Thursday with extensive heavy showers and possible gales in coastal areas

Mwy o gawodydd ar hyd yr arfordir ddydd Gwener

         More showers along the coast on Friday

Sych a braf ddydd Sadwrn

         Dry and fine on Saturday